Humphrey Roberts & Bott Solicitors Logo
01970 636525
  Saesneg English
Animated gif showing "weighing the balance in your favour" in both english and welsh  
Home Button
Conveyancing Button
Probate Button
Wills and Trusts Button
Care for the Elderlt button
Matrimonial Button
Litigation Button
Agriculture Button
LandLord and Tennant Button
Frequently Asked Questions
Links Button
Contact Us Button
Where Are We Button
Client Login Button
Other Services Button
Little box  Gofal am yr Henoed
Croeso i wefan newydd
HRB.

Os ydych angen unrhyw
un o'n gwasanaethau
neu angen gwybodaeth
pellach, yna cysylltwch â
ni drwy glicio ar y
cyswllt isod.
1 Maes Alfred
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 2BS
Cysylltwch â ni
 
 

 

Yn aml, gyda phobl yn byw yn hirach, mae’n angenrheidiol i gyflawni rhai dyletswyddau cyfreithiol penodol ar ran yr henoed er mwyn sicrhau fod eu dymuniadau yn cael eu gweithredu.

Pan fydd person yn dod yn analluog i wneud rhywbeth, er enghraifft, gallwn weithredu ar ei ran ef neu hi er mwyn cwblhau unrhyw faterion a fydd mewn trefn. Drwy gyfrwng dulliau megis ‘Atwrneiaeth Parhaus’ gallwch ymddiried ynom i sicrhau y bydd eich dymuniadau yn dal at eich dymuniad.

Mae Atwrneiaeth Parhaus yn broses cyfreithiol lle rydych yn trosglwyddo i rhywun arall y pwer i benderfynu beth fydd yn digwydd i’ch materion ariannol ac eiddo. Mi fydd y person y byddwch yn ei apwyntio yn cael ei gydnabod fel y “atwrnai”. Mi fyddant yn medru defnyddio’r pwer yn syth, os y dymunwch; neu y gallwch wneud yn glir ei fod ond i’w ddefnyddio os y dowch yn feddyliol analluog i reoli eich materion yn y dyfodol.

Fel arbenigwyr yn y maes yma y mae Wyn Hughes, ein partner arweiniol, wedi ei apwyntio fel aelod o Banel y Derbynwyr a hynny gan y Swyddfa Gwarchodaeth Cyhoeddus, er mwyn gwarchod a rheoli’r gweinyddiad eiddo ynghyd â materion arïannol pobl nad ydynt yn abl i wneud hyn eu hunain.

Rydym hefyd yn aelodau o Gyfreithwyr dros yr Henoed (Solicitors for the Elderly – SFE). Dyma gymdeithas unigryw sy’n galluogi cyfreithwyr sy’n arbenigo yn y maes yma i ymgofrestru â Chôd Ymarfer yr SFE, gan ddarparu arbenigedd yn, er enghraifft; Cydsyniad, Cynhwysedd a gwneud penderfyniadau am newidiol; Cynllunio ariannol, gan gynnwys gofal hir-dymor ac ymddeoliad; a materion gofal cymunedol a thai.

Un maes sy’n peri cryn ofid, er enghraifft, yw talu am le mewn cartref gofal. Mae yna lu o ffactorau ariannol, cyfreithiol a theolaethol integredig sy’n effeithio ar amgylchiadau’r unigolyn. Mae’r cyfan angen eu hanaleiddio a’u cymhwyso fel bo’n addas. Ychwanegwch at hyn materion megis gofal nyrsio a phreswyl a gallwch weld dros eich hun pa mor gymhleth a phwysig gall y maes yma fod.

Am ragor o wybodaeth, neu i drafod y gwasanaethau eraill yr ydym yn eu cynnig i’r henoed (megis ewyllysiau, ymddiriedolaethau, a.y.y.b), yna ffoniwch neu gliciwch ar y cyswllt cyflym isod.