Humphrey Roberts & Bott Solicitors Logo
01970 636525
  Saesneg English
 
Home Button
Conveyancing Button
Probate Button
Wills and Trusts Button
Care for the Elderlt button
Matrimonial Button
Litigation Button
Agriculture Button
LandLord and Tennant Button
Frequently Asked Questions
Links Button
Contact Us Button
Where Are We Button
Client Login Button
Other Services Button
Little box  Ewyllysion ac Ymddiriedolaethau
Croeso i wefan newydd
HRB.

Os ydych angen unrhyw
un o'n gwasanaethau
neu angen gwybodaeth
pellach, yna cysylltwch â
ni drwy glicio ar y
cyswllt isod.
1 Maes Alfred
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 2BS
Cysylltwch â ni
 
 

 

Pam gwneud Ewyllys?

Mae yna amryw o resymau dros gwneud ewyllys, ond efallai yr un mwyaf pwysig yw drwy wneud hyn y bydd eich dymuniadau yn cael eu gweithredu yn sgil eich marwolaeth. Lluniwch eich ewyllys gyda ni:

1. Er mwyn tawelu’r meddwl
2. I warchod eich teulu
3. I leihau eich atebolrwydd o safbwynt y dreth
4. I sicrhau y bydd eich eiddo yn cael ei drosglwyddo yn y modd y dymunech boed i’ch teulu, ffrindiau, elusennau neu sefydliadau eraill …… OND NID I’R DYN TRETH!

Pryder allweddol yw i geisio osgoi’r dyn treth. Rydych wedi gweithio’n galed i ddiogelu’ch asedau a’r gwirionedd yw nad ydych am i gyfran mawr ohono ddiflannu mewn trethi. Mae’r dreth etifeddiant, pan yn berthnasol (bellach fe ddigwydd hyn yn fwy aml) yn drwm a RHAID cymeryd pob cam cyfreithiol er mwyn ceisio ei leihau.

Fel arbenigwyr yn y maes hwn gallwn helpu drwy sicrhau fod eich holl materion yn cael eu hystyried a bod eich ewyllys yn caniatau delio â’ch ystad mewn modd effeithlon, gan leihau’r effeithiau ariannol ac emosiynnol ar eich teulu.

Gall eich ewyllys fod yn barod i’w arwyddo mewn mater o ddyddiau ac yn hynod fforddiadwy. Dim ond £90 mae’n gostio am Ewyllys sengl syml neu £110 am bâr. Os y digwydd i’ch dymuniadau fod yn rhai cymhleth yna gallwn gwarantu y cewch brisiad clir cyn ymrwymo’ch hun ymhellach.

Er mwyn tawelwch meddwl i chi a’ch teulu dyma un buddsoddiad y dylech wir ei wneud. Am ragor o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd os nad ydych yn gwneud ewyllys, cwblhewch y cwis syml canlynol.

Pam y dylwn wneud ewyllys?

Arbenigwr Ewyllys

Beth yw Ymddiriedolaeth?

Efallai y byddwch wedi dod ar draws y term ymddiriedolaeth. Rhwymedigaeth yw hyn ar berson o safbwynt yr eiddo sydd ym meddiant neu o dan reolaeth y person hwnnw a all gael ei orfodi gan lys o dan yr ymddiriedolaeth. Mae ymddiriedolaethau yn ddefnyddiol iawn o safbwynt sicrhau reolaeth iawn ac effeithiol dros eich materion. Yn aml, fe’u defnyddir fel rhan o dechnegau rheoli ystad. Rydym yn arbenigwyr yn y maes hwn a gallwn eich cynghori ar yr hyn sydd ei angen arnoch chi.

Am ragor o wybodaeth am sut y gallwn eich helpu, neu i drafod problem penodol yr ydych yn gwynebu, yna ffoniwch neu cliciwch ar y cyswllt cyflym isod.